To search the Library catalogue use the catalogue search page.
St. Patrick’s Close, Dublin 8, Ireland.
Llyfrgell gyhoeddus gyntaf Iwerddon
Adeiladwyd Llyfrgell Marsh ym 1701 gan yr Archesgob Narcissus Marsh (1638-1713). Hon yw’r llyfrgell gyhoeddus gyntaf yn Iwerddon, ac un o rai cynharaf yr ynysoedd hyn. Fe’i cynlluniwyd gan Syr William Robinson a fu cyn hynny yn bensaer yr Ysbyty Brenhinol, Kilmainham.
Erys tu mewn y llyfrgell yn union fel y’i hadeiladwyd tair canrif yn ôl, gyda’i silffoedd llyfrau o dderw du hyfryd, pob un â’i thalcennau wedi eu cerfio a’u llythrennu, a’u coroni â meitr. Yma hefyd mae’r tair cilfach neu "gaetsys" wedi eu cau â gwifrau cain, lle y clowyd darllenwyr gyda llyfrau prinion. Y mae’n enghraifft wych o lyfrgell ysgolheigiol o’r ail ganrif ar bymtheg. Yn wreiddiol fe gadwynwyd llawer o’r llyfrau. Yr oedd i bob llyfr glasbyn bach o fetel yn sownd wrth gadwyn, ac ar ben arall honno fodrwy a redai ar ffon bren sownd wrth bob silff.
Ym 1707 pasiwyd "Deddf er Sefydlu a Chadw Llyfrgell Gyhoeddus am byth" gan y senedd Wyddelig. Ymddiriedwyd llywodraeth y Llyfrgell i Lywodraethwyr a Gwarchodwyr; sef Archesgobion Eglwys Iwerddon Armagh a Dulyn, Deoniaid Eglwys Badrig ac Eglwys Crist, Prifathro Coleg y Drindod a phedwar Llywodraethwr arall yn rhinwedd eu swyddi: swyddi a ddiddymwyd pan sefydlwyd y Wladwriaeth ym 1922. Un o’r cyfryw rai oedd yr Arglwydd Ganghellor, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu i’r llywodraeth, ar gais y Llywodraethwyr a thrwy ddeddf, bennu’r Prif Ustus yn Llywodraethwr. Ers 1997 mae dau wedi eu penodi gan y llywodraeth wedi ymuno â’r bwrdd. Y mae’r Llywodraethwyr a’r Gwarchodwyr yn penodi Ceidwad ac Is-geidwad, sef ar hyd o bryd Muriel McCarthy, M. A., LL.D. a’r Parch. C. R. J. Bradley, M. A.
Y mae pedwar prif gasgliad, yn cynnwys 25,000 o lyfrau perthynol i’r 16eg ganrif, yr 17eg a rhan gyntaf y 18fed. Fel y gellid disgwyl, mae casgliad helaeth o weithiau litwrgïaidd, llyfrau offeren a gwasanaeth, llyfrau oriau, Beiblau wedi eu hargraffu ym mron pob iaith, a pheth wmbredd o ddiwinyddiaeth ac o ddadlau crefyddol. Ond gwþr ysgolheigaidd eu chwaeth oedd y casglwyr hyn, ac y mae amrywiaeth y testunau yn rhyfeddol o eang ac amrywiol. Mae yna lyfrau yn ymwneud â meddygaeth, y gyfraith, teithio, morwriaeth, mathemateg, cerddoriaeth, tirfesureg a llên glasurol yn y casgliadau oll. Neilltuir ystafell ar wahân ar gyfer llyfrau a chyfnodolion yn ymwneud â hanes Gwyddelig wedi eu hargraffu yn ystod y can mlynedd diwethaf.
Y casgliad pwysicaf yw Llyfrgell Edward Stillingfleet (1635-1699), a fu’n Esgob Caerwrangon. Ym 1705 talodd Narcissus Marsh £2,500 am y llyfrgell hon a gynhwysa yn agos i 10,000 o lyfrau. Y mae’n cynnwys rhai wedi eu hargraffu gan yr argraffwyr Seisnig cynharaf: Berthelet, Daye, Fawkes, Notary, Pynson, Siberch, Wolfe a Wynkyn de Worde. Wedi ei ludo y tu mewn i sallwyr a argraffwyd gan Richard Pynson yn Llundain ym 1524 mae clawr maddeueb a gyhoeddwyd gan Thomas Wolsey a’r Cardinal Campeggio yn apelio am gyfraniadau ar gyfer Cadeirlan Henffordd. Y mae yn ei rwymiad stamp panel gwreiddiol wedi ei addurno â’r rhosyn Tuduraidd a dail gwynwydd.
Gadawodd yr Archesgob Marsh ei holl lyfrau i’w lyfrgell, ond ei gasgliad mawr o lawysgrifau Dwyreiniol i Lyfrgell Bodley. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwyddoniaeth, mathemateg a cherddoriaeth, ac y mae llawer o’i lyfrau mathemategol yn frith o’i nodiadau. Casglai Marsh lyfrau Hebraeg, Arabeg, Tyrceg a Rwsieg hefyd, y rhai olaf yn enghreifftiau prin a diddorol o argraffu Rwsieg cynnar. Mewn un llyfr Hebraeg, wedi ei argraffu yn yr Eidal ym 1491, ysgrifennodd Marsh, yn agos i dair canrif yn ôl: "Liber rarissimus" (llyfr prin ar y naw).
Y Dr Elias Bouhéreau, ffoadur o Huguenot a ffodd Ffrainc ym 1685, oedd y llyfrgellydd cyntaf. Y mae ei lyfrau, a adawodd i’r Llyfrgell, yn ymwneud â diwinyddiaeth a dadlau Protestannaidd, ac â Phrifysgol Samur lle bu’n fyfyriwr. Yn eu plith mae enghreifftiau gwych o argraffu Cyfandirol cynnar. Eto yn ei rwymiad gwreiddiol mae copi o "Le Rommant de la Rose", wedi ei argraffu ym Mharis gan Galliot du Pre.
Gadawodd John Stearne (1660 - 1745), Esgob Clogher, ei lyfrau i’r Llyfrgell ym 1745. Maent yn debyg i’r casgliadau eraill, ond yn eu plith mae llyfr hynaf y Llyfrgell ac un o rai prydferthaf, "Llythyrau at ei Gyfeillion" Cicero wedi ei argraffu ym Milan ym 1472.
Yn ogystal â’r pedwar casgliad hyn mae tua trichant o lawysgrifau yn y Llyfrgell. Y pwysicaf yw cyfrol o Fucheddau’r Saint Gwyddelig, yn dyddio o tua 1400, wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Mae Ymdeithlyfr a fu’n eiddo i Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd, Dulyn yn y 15fed ganrif. Cynhwysa ddrama ganoloesol bwysig, yr Ymweliad â’r Bedd, yn nefod yr Wythnos Fawr.
Yr Archesgob Marsh fu’n gyfrifol am baratoi ar gyfer y wasg gyfieithiad yr Esgob Bedell o’r Hen Destament i’r Wyddeleg; fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn Llundain ym 1685 gyda chymorth ac anogaeth y gwyddonydd mawr, Robert Boyle. Mae dwy gyfrol o gyfieithiad gwreiddiol Bedell yn y Llyfrgell, a’r drydedd gyfrol a’r Apocryffa yn Llyfrgell y Brifysgol, Caergrawnt.
Mae’r llawysgrifau cerddoriaeth yn cynnwys rhan-lyfrau o’r 17eg ganrif a llyfr o gerddoriaeth tabl nodiant hyfryd o ran olaf yr 16eg ganrif. Mae llyfr bychan o farddoniaeth Elisabethaidd yn cynnwys cerdd i’r Frenhines Elisabeth gan Syr Walter Raleigh. Yma hefyd mae llawysgrifau yn ymwneud ag Iwerddon yn bennaf wedi eu casglu neu eu cywain gan Dudley Loftus.
Fel Deon Eglwys Badrig bu Jonathan Swift yn llywodraethwr ar y Llyfrgell gan fynychu’r ymweliadau blynyddol dros gyfnod maith. Mae nodiadau helaeth yn ei law yn "History of the Rebellion" Clarendon, y rhan fwyaf yn gyfeiriadau sarhaus at yr Albanwyr oherwydd eu rhan yn y gwrthryfel.
Cymreigi’r Howard Huws
Llun: 10 a.m. - 1.00 p.m., 2 p.m. - 5 p.m.
Mawrth: Ar gau gydol y dydd.
Mercher, Iau, Gwener: 10 a.m. - 1.00 p.m., 2 p.m. - 5 p.m.
Sadwrn: 10 a.m. - 1.00 p.m. yn unig
Sul: Ar gau gydol y dydd.
Mae gan Lyfrgell Marsh hefyd adran gadwraeth a adeiladwyd gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Delmas. Gallwn gynorthwyo gyda chyngor arbenigol ar gadwraeth ac adferiad llyfrau, llawysgrifau, printiau, dyluniadau, darluniau dyfrlliw, mapiau, defnyddiau archifol a phob math o waith ar bapur.
‘Ffôn a ffacs (Llyfrgell): (01)4543511; ‘Ffôn (Adran Rwymo): (01)4544609
E-bost: keeper@marshlibrary.ie